Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 17, 2011

Yr Amgueddfa Wag

Rhaid i bob tref fach gael ei hamgueddfa. Neu o leiaf dyna fyddai rhywun yn meddwl o deithio o gwmpas Asturias. Amgueddfeydd i’r diwydiant seidr, caws, anifeiliad prin, celfyddyd yr ogofau (pob ogof jyst â’i chanolfan esbonio ei hun wrth ei hochr), i’r allfudwyr, i’r môr, trenau, y diwydiant glo, cerfwaith pren, amaeth a’r hen ffordd o fyw, pŵer trydan dŵr…stop!

Ond er gwaetha’r holl weithgarwch, sefydlu a chasglu a chael arian i’w cynnal, ychydig iawn yw’r ymwelwyr sy’n eu mynychu nhw. Yn nwyrain Asturias y llynedd, llai na 50,000 o ymweliadau, allan o’r cannoedd o filoedd sy’n dod i’r ardal ar eu gwyliau. A does dim modd gwybod, chwaith, faint o’r bobl yna oedd yn byw yma ta beth.   Mae llywydd newydd Cymdeithas Twristiaeth Cefn Gwlad wedi dweud yn blwmp ac yn blaen na ellir eu fforddio mwy: y byddai’n well canolbwyntio ar yr ychydig sydd yn denu ymwelwyr a’u gwella nhw. ‘Does neb,’ meddai ‘am ddod i Asturias i ymweld ag Amgueddfa sydd dim ond yn gasgliad o werthydoedd lês’.

Rwy’n amau ei fod yn iawn. Un peth yw ennyn y brwdfrydedd i sefydlu amgueddfa, rhywbeth hollol wahanol yw ei chadw i fynd, ei datblygu, ei diweddaru fel bo’r angen. Y rhai sy’n gweithio yw’r rheiny lle mae ‘na unigolyn arbennig gyda’r gwybodaeth a’r egni i wneud y peth weithio – Canolfan y Sueve, a’i gwefan hawdd ei thrafod ond uniaith Sbaeneg, sydd yn cynnwys hanes, daearyddiaeth, planhigion, anifeiliaid a phobl y mynyddoedd hynny ac yn cynnig teithiau cerdded, diwrnodiau i blant ysgol a darlithoedd.

Ond yr awgrym sy’n dod o’r ffigyrau yma yw bod ymwelwyr yn dod i’r traeth, i’r mynydd, ac i gael cinio da. A pham lai?


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: