Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 18, 2011

Celwydd, Celu, Ystadegau

Rwyf i wedi sôn droeon ac efallai hyd syrffed am y draffordd anorffenedig: ond heddiw daeth eitem fach o newyddion sy’n dangos paham fy mod i fan hyn yn tyfu tatws yn lle rhedeg pethau pwysig fel traffyrdd.

Roedd aelod o senedd Sbaen wedi gofyn am ddyddiad newydd ar gyfer cwblau’r gwaith rhwng Llanes ac Unquera; yn amlwg, gyda’r oedi sydd wedi bod yn barod, ni fydd yn barod erbyn y dyddiad a benodwyd yn wreiddiol. O, oedd ateb y Weinyddiaeth Ddatblygu, fedrwn ni ddim dweud eto.

Ond mae’r gwaith wedi ail-ddechrau, rhaid eich bod yn gwybod pryd mae i fod i orffen? Na, daeth yr ateb eto. Ryn ni wrthi nawr yn cyweirio’r ffigyrau yn y gyllideb ar gyfer y ddwy ran o draffordd sy’n weddill. Dim ond ar un rhan mae’r dynion wedi dechrau gweithio hyd yn hyn. A na, dydyn ni ddim yn gwybod pryd fyddwn ni wedi gorffen y gwaith o gyweirio, na phryd y bydd y gwaeth yn ail-ddechrau ar yr ail ran, na phryd fydd yn barod i’w hagor.

Mae’r rhan yma’n eistedd rhwng darn a orffenwyd yn 2001, ac un arall flwyddyn yn ddiweddarach. Ac yn hapus ddigon i’r rhai sy’n gwenu ar broblemau  gwleidyddion, mae’r hen Cascos yn cael y bai. Fe oedd yng ngofal y Weinyddiaeth ddeng mlynedd yn ôl, a mae llawer un yn ei achosi o wthio mlaen gyda’r darnau rhwydd. Yn anffodus iddo fe, mae’r darnau anodd yn Asturias, felly fydd hyn ddim yn helpu’i achos – y ‘prosiect gwleidyddol Astwraidd’ newydd. (dim rhagor o fanylion amdano eto chwaith).


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: