Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 21, 2011

Plaid Newydd ar y Dde

Mae’r byd bach gwleidyddol lleol yn deffro ac yn newid: mae Francisco Alvarez Cascos, hen weinidog datblygu yn llywodraeth Sbaen yn amser Aznar a’r PP, wedi cyhoeddi ei fod e yn sefydlu plaid newydd, fydd yn blaid i Sbaen gyfan ond fydd yn cael ei alw’n Foro de Asturias yma ar y dechrau. Bob dydd mae newyddion yn dod am ragor o gynghorwyr yn ymuno ag ef, heddiw mae 3 o Ribadesella yn eu plith.

Hyd y gwelaf i bydd y blaid newydd yn debyg iawn i’r PP ar faterion economaidd a chymdeithasol. Ond gan ein bod yn tynnu tua’r etholiadau lleol rwy’n siŵr y bydd o leiaf yn ymddangos yn Astwraidd. Beth mae hynny’n feddwl? I ddechrau, eu bod yn  mynnu mwy o sylw i Asturias. Onid dyna beth mae pob llywodraeth gymunedol yn ei gwneud fel rhan o’i gwaith, beth bynnag yw ei pholisiau? Ar ôl yr etholiadau lleol, bydd y blaid newydd yn edrych tuag at etholiadau nesaf Sbaen.

Mae pobl y blogs gwleidyddol y tu fâs i Asturias yn awgrymu y bydd y blaid newydd yn ennill pleidleisiau oddi wrth y PP oherwydd y ‘diffyg cyffro’ maen nhw’n gweld ynghylch Mariano Rajoy, arweinydd y blaid honno. Ond hyd nes y bydden nhw’n dweud mwy am eu polisiau mae’n anodd dweud.

Yn lle hynny, byddaf i’n edrych tuag at fiesta San Anton yn y pentref yfory – a gobeithio na fydd y gwynt yn rhy fain achos dyw’r wisg draddodiadol ddim yn cynnwys côt.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: