Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 24, 2011

O’r Gegin, yn Arbennig i Emma Reese

Pan soniais i am y kakis cyn Nadolig, ces i sylw gan Emma oedd yn cofio’u bwyta nhw yn Siapan. Mae’n rhai ni yn awr yn barod, h.y. yn feddal ac yn blasu’n hyfryd.

Ond roeddwn i am wneud rhywbeth gwahanol, yn lle bwyta nhw heb eu trin. Mae’r sorbe yn gweithio’n dda ac yn rhwydd iawn (mae gen i beiriant bach cymysgu/rhewi), ond beth arall allwn ei wneud?

Ychydig iawn o ffrwythau ffres mae rhywun yn cael yn ystod y gaeaf, felly penderfynais i wneud compot gyda stwnsh kaki yn lle sudd oren. Cymrais i

3 kaki, tynnu’r canol mâs â llwy a’u stwnsio yn yr hylifydd. Dibynnu pa mor felys yw’r kakis, efallai bydd angen sudd hanner lemwn (30ml).

100g yr un o’r ffrwyth yma, wedi’u sychu: bricyll, mango a llusi duon bach (er nad yw rhai Sbaen mor fach â hynny).

Cymysgu’r cwbwl mewn powlen, a’u gadael dros nos fel bod y ffrwyth yn llyncu hylif y stwns. Brecwast neu bwdin, gyda iogwrt.  Joiwch!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: