Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 26, 2011

O’r Ardd – Tocio 1

Mae gen i syniad y bydd y blog yn cael ei gyhoeddi ryw dipyn yn hwyrach bob dydd tra bod y tywydd yn parhau’n sych a ninnau’n brysur yn yr ardd.

Heddiw fe ddechreusom ar y gwaith o docio’r coed ffrwythau, ac rwyf i wedi cwblhau’r olewydd. Mae hynny’n swnio fel tipyn o gamp, nes imi esbonio taw dim ond dwy sydd (wel, ar wahân i’r rhai bach dyflwydd brynodd y gŵr yn Andalucia y llynedd).

yr olewydd ffoto:cathasturias

Tynnais i’r llun yma ar ôl gorffen yr un yn y cefndir: chi’n gallu gweld yn blaen faint o dŵf oedd arni wrth edrych ar y llall. Maen nhw’n rhy hapus yma yn Asturias â dweud y gwir: yn tyfu fel chwyn, yn disgwyl yn fendigedig ond byth yn dwyn ffrwyth.

Wedyn wnes i sylwi nad oedd gyda ni ddim lle i roi yr holl doriadau: brigau llynedd yn dal mewn tomen ar dop y cae. Byddwn yn defnyddio’r rhai mwy fel coed tân, ond beth i wneud  â’r gweddill? Wedi cael benthyg peiriant bach sy’n rhwygo’r brigau tenau yn ddarnau mân fel y gellwch eu defnyddio fel gorchudd o dan y llwyni  – i gadw’r chwyn i lawr a’r planhigyn yn dwym/heb sychu’n ormodol.llun o hwnnw yfory efallai.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: