Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 27, 2011

O’r Ardd- y Rhwygwr

Dyma fe’r rhwygwr:

Fel y soniais i ddoe, mae’n torri brigau mân yn fannach fyth fel ei bod yn hawdd gwneud gorchudd i ddodi o dan llwyni fel hortensia; mae gyda ni stribedyn o ardd ar ochr y tŷ sy’n llawn ohonyn nhw, a dydyn ddim yn cael llawer o faldod felly roedd y llafur yma yn ddyledus ers rai blynyddoedd.

Mae’r peiriant yn bwyta brigau sych o hyd at lled bawd, ond mae e braidd yn ffysi. Dyw e ddim yn hoffi pren ffigys (rhy feddal), na mimosa (rhy galed), a gwell peidio â’i fwydo gydag unrhyw beth fel coesau blodau’r yucca – er eu bod yn sych, mae’r ffibrynnau oddi fewn yn eu lapio eu hunain o gwmpas y gyllell. Ond mae’n dwli ar frigau coed afal, gellyg, eirin a cheirios, a mae digon o’r rheiny i’w cael iddo.

Mae llond whilber o frigau’n cael ei droi’n un bwceded o ddarnau; rwyf i wedi gwneud 7 yn awr, a dim ond hanner y stribedyn sydd wedi ei orchuddio.  Y ddau beth sydd yn gas gen i: y sŵn (peiriant trydan yw e), a’r ffaith ei fod yn tueddu i stopio. Rhaid gwneud yn hollol siŵr bod popeth wedi dod mâs cyn ei ddiffodd e, neu wnaiff e ddim ddechrau eto a bydd rhaid ei agor a’i lanhau (eto).

Ar ôl hyn i gyd, es i am dro i lawr i’r traeth, i gael hanner awr o dawelwch a thangnefedd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: