Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 28, 2011

Wedi Cilio o’r Ardd am Blwc

Mae tymheredd yn gallu bod yn beth goddrychol weithiau. Wrth ddod i fewn o’r ardd o achos y glaw, roeddwn yn gweld y gegin os rhywbeth yn rhy dwym – er ein bod ni wedi torri nôl ar oriau’r llawr twym yr wythnos hon. Yn ôl y thermomedr, dim ond 2C o wahaniaeth sydd rhwng heddiw a ddoe: ond ddoe, roedd yn heulog ac yn bleser  bod mâs yn yr awyr iach.

Amser i restru beth sydd gyda ni o ran bwyd o’r ardd.

Yn y stordy: tato (digonedd), wynwns (digon hyd at y Pasg, bydd rhaid prynu wedyn), ychydig o afalau, a phentwr o gnau Ffrengig. A’r seidr, wrth gwrs. A’r cyffeithiau.

Yn yr ardd: blodfresych, ysgewyll, moron, panas, cennin, helogan (seleri), betys arian, lemwns, orennau, persli, oregano.

Yn y rhewgell: pupurod coch, stwns kaki, tomatos rhost, saws tomato, riwbob(!).

Mae’r ffa llydan bron yn barod hefyd, dim ond 7-8cm eto, ond efallai erbyn wythnos nesaf… Ac mae math arall o flodfresychen yn tyfu’n dda ond heb ffurfio’r ‘blodyn’ eto.   Ond dydyn ni ddim eto wedi maeddu’r cyfnod anodd ddiwedd y gaeaf a dechrau’r gwanwyn;  hyd yn oed o ran llysiau, dydyn ni ddim yn hunangynhaliol.

Sdim ots – ryn ni’n cael hwyl arni ac yn bwyta’n dda.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: