Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 29, 2011

Glaw a Gwaed

Glaw drwy’r dydd eto. Mae heolydd bach y pentref o un ochr i’r llall yn nentydd byrlymus, a dail a mwd yn cael eu pentyrru ar y corneli. Lan yn y mynyddoedd, dychwelodd yr eira, gan gau hyd yn oed y draffordd i Madrid am rai oriau. Ond fan hyn, dŵr. Dim ond uwchben rhyw 700m mae wedi troi’n eira.

Mae trigolion Ponga, un o’r ardaloedd mynyddig mwyaf traddodiadol, yn galw am yr hawl i ladd bleiddiaid eto. Maen nhw’n dweud bod 365 o anifeiliaid – defaid a lloi, yn bennaf – wedi eu lladd gan fleiddiaid y llynedd ar diroedd Ponga, ac yn cyhuddo’r Parc Natur o wrthod rhoi’r ffigyrau iawn iddyn nhw. Bu cynnydd mawr yn nifer y bleiddiaid yn nwyrain Asturias ers iddyn nhw gael eu diogelu’n swyddogol; o bryd i’w gilydd mae’r awdurdodau’n caniatau lladd un neu ddau mewn ardal benodedig.

Mae llawer o bethau’n gyffredin rhyngom ni a’r Astwriaid, ond a ydyn nhw o waed Celtaidd? Mae Prifysgol Uvieu/Oviedo wedi dechrau profion ymysg pobl sydd o dras gwbl Astwraidd am y ddwy genhedlaeth ddiwethaf i weld pa genynnau sy’n digwydd yma, pa rai sydd dim ond i’w gweld yma, a pha gysylltiadau sydd gyda phoblogaethau agos fel y Basgiaid neu o’r blaen fel y Celtiaid. Yr wythnos yma maen nhw yn Ribadesella yn cymryd gwaed gan gymaint o bobl ag y gallan nhw. Ond chawn ni ddim ateb yn fuan iawn: gwaith blynyddoedd fydd hwn.

 

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: