Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 1, 2011

Y Mis Bach a’r Haul

Newidiodd y tywydd unwaith eto. Dyna un peth am arfordir Asturias: dyw rhywun byth yn digalonni ar y glaw nac yn blino ar y gwynt, oherwydd mewn byr o amser mae e i gyd wedi newid eto.

Dyma fel oedd hi eto heddiw – nid yn dwym, ond yn heulog. Amser i fynd yn ôl at y gwaith o lanhau’r ardd: tocio a chwynnu, chwynnu a thocio. Y ffigysbren fawr a’r coed lemwn oedd yn teimlo’r siswrn y prynhawn yma; hyd yn hyn dwi ddim wedi ceisio dim ar y coed oren sy’n tyfu fel llwyni yn hytrach na choed.

A’r iorwg! Mae iorwg ymhobman eleni, ar y creigiau, ar y waliau, ar y coed, hyd yn oed yn y lawnt. Ac mae’n ymledu mor gyflym, drwy hadau a thrwy greu gwreiddiau newydd ar ei frigau. Yn wahanol i rai pethau eraill, fyddwn i ddim eisiau ei ladd e i gyd, dim ond ei gadw o dan reolaeth. (Ha ha).

A’r peth mwyaf lliwgar yn yr ardd ar hyn o bryd? Dyma hi’r olch yn sychu. Rhywbeth i’r merched – dwi ddim yn adnabod unrhyw ddyn sy’n teimlo pleser o weld dillad yn sychu ar lein.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: