Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 2, 2011

O Ardd y Perlysiau

Tro gardd fach y perlysiau oedd hi heddiw. Poced o dir metr a hanner wrth hanner yw hon, yn ddigon agos i ddrws y gegin.  Ond clai yw’r pridd, a rywsut neu’i gilydd clai yw hi ar ôl sawl ychwanegiad o bridd da. Efallai o’r herwydd, mae mwsogl yn tyfu yma’n rhwydd, ac yn creu hafan i bob math o chwyn yng nghanol y perlysiau parhaol.

Roedd y cennin sifis, er enghraifft, yn colli’r frwydr yn erbyn y mwsogl. Doeddwn i ddim eisiau defnyddio cemegau, felly dyma balu fe mâs a thynnu’r mwsogl gyda’m bysedd. Syndod hyd y gwreiddiau sydd gyda nhw. Roedd y clai’n dal yn oer, felly rhois i bwceded arall o bridd da i fewn, torri’r clwmpyn cennin sifis yn ddwy a’u hail-blannu.

Yr un peth wedyn gyda’r oregano. Tri ohonyn nhw. Mae gweddill yr ardd perlysiau diolch byth yn ysgafnach. Ac er bod fy nghefn yn gwingo heno, roedd hi’n braf bod allan yn yr heulwen gyda gwynt y mimosa’n dew ar yr awyr.

Mae’r gwenyn, a finnau, yn dwli arni.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: