Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 3, 2011

Ffynhonnau’r Clogwyni

Diwrnod hir a heulog yn yr ardd eto heddiw: mae’r coed bricyll a’r eirin wedi colli’r holl ganghennau oedd yn tyfu syth lan – dros metr o hyd, rhai ohonyn nhw. Tic – tociwyd y kaki hefyd, a dyma’r lemwn wrth y tŷ ar ei newydd wedd.

Mae’n dal yn goeden fawr ond eto heb y brigau hir oedd yn dwyn un ffrwythen ar y pen eithaf ac yn cael eu chwythu gan bob awel heb sôn am wyntoedd cryfion. Yfory bydd rhaid mynd ati eto i roi gwell siâp ar yr eirin gwlanog. Fydda’i ddim yn tocio ryw lawer ar y cwins, dim ond torri canghennau sy’n mynd i gyfeiriad canol y goeden neu sydd wedi marw.

Y wobr am y gwaith oedd cerdded i lawr i’r clogwyni a gweld y bufones yn eu hanterth.

bufones de Pria ffoto:cathasturias

Ac eto:

bufones ffoto:cathasturias

Roedd hyd yn oed enfys yn y dŵr oedd yn hongian yn yr awyr ar ôl i bob bufón saethu mâs o’r graig, ond doedd hi ddim yn ddigon pendant i’m camera bach i gael llun da.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: