Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 4, 2011

Pererin Cynta’r Tymor

Wel dyna lle’r oeddwn i ar fy ngliniau ar y graig y tu ôl i’r tŷ, yn chwynnu o dan y lafant. Os oes na jobyn mwy lletchwith i gael yn yr ardd, dwi ddim eisiau glywed amdano. Roedd hyn yn oed sbrigau o iorwg wedi llwyddo i ymsefydlu yn y pocedi dyfnaf.

Ac i’m clyw daeth sŵn rhywun yn siarad yn uchel: un dyn,  neb yn ei ateb. Yn siarad Sbaeneg, ond doedd e ddim yn un o’r cymdogion. Llwyddais i godi ar fy nhraed a brysio i edrych i lawr ar y camino: boi tal iawn yn brasgamu heibio fel petai’r pac anferth oedd gydag e yn cynnwys dim ond plu. Ac yn siarad ar ei ffôn. Pererin cyntaf y tymor ar ei ffordd i Santiago.

Byddwn i wedi hoffi tynnu’i lun e, ond roedd e wedi diflannu bron wrth imi gael golwg arno. (A’r camera yn y tŷ, wrth gwrs.}  Efallai ei fod e wedi colli’r flwyddyn dra-sanctaidd y llynedd, ond roedd yn mynd mor glou rwy’n siŵr geith e bwyntiau am hynny.

Os bydd y tywydd yn parhau’n dda byddwn yn mynd am dro i Sierra Cuera yfory: gobeithio cael lluniau diddorol a gweld pa flodau sydd wedi ymddangos. Ond tan hynny llun ‘Aaaaaah’.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: