Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 6, 2011

Rhyfeddod y Bufones

Lluniau yw’r prif gymeriadau heddiw: mae’r bufones wedi bod yn aruthrol dros y 4 diwrnod diwethaf, a phan oeddem ni yn Sierra’r Cuera ddoe, fe welsom –  efallai – yr esboniad.

Bydd rhaid clico ar y llun i’w gweld yn well, ond ar y hyd y gorwel roedd ‘na gymylau mawr yn symud tua’r gogledd-ddwyrain – storm yn pasio heibio. Yn ôl teclyn bach ffindes i ar y we, os oeddem ni ar 750m, roedd y gorwel 98km i ffwrdd. Mae hynny’n golygu bod y storm tua 90km o’r arfordir. Ai effaith y gwahaniaeth mewn pwysedd  yn yr awyr oedd yn gyrru’r tonnau mawr tuag atom ac yn achosi’r bufones?

bufon.haul ffoto:cathasturias

Fe gyrhaeddom ni’r clogwyni ychydig cyn y machlud haul, lle roedd llu o bobol wedi ymgynull i weld y bufones.

bufon.machlud ffoto:cathasturias

Roedd hi fel rhyw ddefod o Oes y Cerrig; pawb yn sefyll yno, wedi’u hudo gan un o ryfeddodau’r ddaear.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: