Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 7, 2011

Timau Achub y Picos

Mae tywydd hynod newidiol Asturias yn gallu arwain at broblemau i’r rhai sy’n dod yma i fynydda ac i bobl y timau achub. Yn aml iawn – ac ar bob amser o’r flwyddyn – y byddwch yn dechrau’r daith o dan haul, os nad toreithiog, wel twym, a phopeth yn mynd yn iawn am yr awr neu ddwy gyntaf.

Wedyn bydd rhywun yn sylwi ar y niwl sy’n codi o’r cwm gerllaw, neu’r cymylau sy’n rasio tuag atoch chi o’r gorllewin. Amser i ddychwelyd, neu i chwilio am loches.

Mae’r sawl sydd yn mynd i drafferthion yn y Picos de Europa a gweddill mynyddoedd Sbaen yn cwympo i ddwylo’r heddlu. Nhw, y Guardia Civil, neu o leiaf eu hadran arbenigol, y GREIM, sy’n ffurfio’r timau achub boed ar y mynydd neu’r môr.

Mae grŵp y Picos yn gweithio’n llawn-amser o Cangas de Onis, y dref fwyaf yn yr ardal, ac yn ymarfer bob dydd rownd y flwyddyn. Nid yn unig mae’n rhaid iddyn nhw gadw’n gorfforol gryf, ond hefyd adnabod yr ardal o dan haul neu eira. Ac yn ddiweddar maen nhw hefyd wedi gorfod dysgu disgyn i ogofau dwfn a dilyn cyrsiau barranquismo (canyoning) am fod mwy a mwy o bobl yn dod i’r Picos i wneud y pethau hynny yn ogystal ag i fynydda’n draddodiadol.

Gobeithio na fyddwn ni byth yn gorfod galw arnyn nhw, wrth gwrs. Ond mae’n dda gwybod eu bod nhw yno.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: