Mae ‘Traffordd y Môr’ ar agor rhwng arfordir gogledd Sbaen a gwledydd gogledd Ewrop. Ac mae’n gwneud yn well nag oedd neb wedi proffwydo, gyda llongau’n hwylio o Gijón yn Asturias a Santander yn Cantábria; cystadlu brwd yw hanfod y perthynas rhwng y ddau borthladd.
Ddoe yn Gijón, bu’n rhaid gadael hanner llwyth o geir newydd Renault ar y ceir am fod gymaint o loriau wedi’u cofnodi ar gyfer y daith i Nantes yn Llydaw. Mae’r ceir yn cael eu cynhyrchu yn Sbaen ac yn cyrraedd y porthladd ar drên arbennig. Ond yn ôl y drefn y loriau sy’n cael mynd gyntaf, a’r ceir yn gorfod aros i’r llong ddychwelyd yfory. Roedd awdurdodau porthladd Gijón wedi synnu braidd cael cymaint o fusnes ar ddydd Mawrth: maen nhw wedi hen arfer â gyrwyr loriau yn dewis y llong dros y penwythnos am nad ydynt yn cael dreifio drwy Ffrainc ar ddydd Sul.
Ac yn Santander, lle mae na wasanaeth bedair gwaith yr wythnos (loriau unwaith eto) i Zeebrugge yng Ngwlad Belg, mae nhw newydd gyhoeddi dechrau un arall fydd yn mynd i Gothenburg yn Sweden.A hynny ar wahan i Brittany Ferries sy’n cario loriau a cheir preifat i Loegr.
Ar wahan i waharddiad Ffrainc, mae’n rhaid taw’r gost yw’r rheswm dros y cynydd yn nifer y mordeithwyr. Gyda phris tanwydd yn codi bob yn eilddydd mae arbed mil neu fwy o filltiroedd yn edrych yn rhesymol, yn enwedig gan fod y gyrrwr yn cael cyfle i gysgu ac felly’n gallu gyrru diwrnod llawn pan fydd yn cyrraedd y pen draw.
Ac maen nhw’n cario pob math o bethau: roedd un o’r gyrwyr ar ein mordaith diwethaf ni yn mynd â thatws o’r Alban i Dde Sbaen (i’w plannu).
Gadael Ymateb