Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 10, 2011

Drama Siôl a Ffedog

Dyw S4C (hyd y mae’n bosib gwybod o fan hyn) ddim yn dwli ar dramau na chyfresi drama hanesyddol – y siôl a’r ffedog. Adlewyrchu Cymru fel y mae, dyna’r nôd, y ‘sut’. Ond yn Sbaen mae’r cyfryngau – yn enwedig y teledu – un ar ôl y llall yn cynhyrchu cyfresi sy’n esbonio’r ‘pam’ . Cyfresi fel Cuéntame como Pasó, sy’n dal i redeg ar ôl blynyddoedd ac yn dilyn hynt a helynt teulu yn ystod y trawsnewidiad a ddilynodd marwolaeth yr unben Franco. Cyfresi fel Doctor Matteo,  wedi ei lleoli mewn tref fach cyn i’r byd mawr ddod i newid pethau.

A chyfresi fel La Señora, hanes sy’n dechrau yn y 1920au, sy’n cymysgu stori serch, serch rhwng dau o o’r ddau begwn eithaf o fewn y gyfundrefn ‘dosbarth’, a stori hefyd am y newidiadau enfawr oedd ar droed. Unbenaeth arall, o dan Primo de Rivera, fyddai’n arwain at weriniaeth a wedyn at ryfel.

Fe gafodd ei saethu yma yn Asturias, a rhannau helaeth ohono ar y clogwyni lle byddaf yn cerdded yn aml. Angen rhywle oedd heb newid llawer mewn 90 mlynedd.

Ond yn awr mae’r cwbl wedi landio yn y llys. Awdur nofel yn cyhuddo’r cwmni teledu o ddwyn ei gwaith hi. Y fenyw a sgrifennodd y sgript yn gwadu hynny.  Y papurau’n talu sylw. Rhaid bod yna bennod arall ar fin ymddangos ar y sgrîn!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: