Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 11, 2011

Robin Goch Dewr Difeddwl

Oce, rwy’n gwybod bod y pennawd yn anthropomorffig – ond felly roeddwn yn teimlo ar y pryd. Y robin goch yw’r unig aderyn sydd byth a hefyd yn hedfan i fewn i’r tŷ i chwilio am fwyd neu le i nythu. Fel arfer, bydd agor y ffenestri a gadael iddo fod yn ddigon; bydd yn ymadael o’i wirfodd.

Ond heddiw pan gyrhaeddais y teras o’r ardd roedd aderyn bach yn eistedd ar y silff  ffenestr, ar y tu fâs â’i ben yn pwyntio i mewn i’r gegin. Wnaeth e ddim symud, dim hyd yn oed amrantiad, pan es yn nes, a dywedodd y gŵr ei fod wedi dod i mewn i’r gegin ac wedi llwyddo i hedfan yn syth ben i fewn i sawl ffenestr, dim ots faint ohonyn nhw oedd ar agor lled y pen iddo.

Roedd ei big ar agor a bybls bach yn ymddangos, ond dyna’r unig symudiad. Wedyn fe gofiais bod gyda fi potel bach â diferydd a fu unwaith yn dal dŵr hallt i’m llygaid. Y math o beth mae rhywun yn ei gadw achos  ‘deith e fewn yn handi rywbryd’.  Wel fe wnaeth.

Arhosodd y robin goch yn llonydd wrth imi ddiferu dŵr glân i’w big; yna ar ôl ychydig eiliadau siglodd ei ben a chaeodd ei big yn glep. O fewn munud roedd e wedi hedfan i ffwrdd – er mod i wedi gorfod ei rwystro rhag dod i fewn eto drwy ddala bwrdd torri yn y ffenestr.

Dwi ddim yn gwybod a wnes i’r peth iawn neu beidio: unrhyw sylwadau?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: