Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 13, 2011

Gaeaf Gwahanol Iawn

Flwyddyn yn ôl fe ysgrifenais i gofnod am yr hirlwm, yr oerfel anarferol oedd yn rhwystro dyfodiad y gwanwyn yn Asturias ac yng ngweddill Sbaen. Gofyn yr oeddwn a oedd hynny’n eithriad – ac o’r hyn a welwyd eleni, oedd. Mae’r wythnos a hanner diwethaf wedi bod yn heulog ac yn dwym: 15 gradd yn y cysgod am 6.30 y nos! Bu’n rhaid inni dorri’r borfa (nan nad oes gennym anifeiliaid i bori yno) ac mae’r gwaith o baratoi’r lleuarth, neu ardd llysiau, ar gyfer y tymor i ddod bron ar ben. Deg diwrnod yn olynol o weithio yn yr ardd yn y Mis Bach!

dilyn yr ôg ffoto:cathasturias

Mae’r cymdogion sy’n amaethu ar raddfa fwy wrthi hefyd: fel rheol mae’r tir âr heb wrych na wal rhwng eiddo un teulu a’r nesaf. Mae’n ei gwneud yn haws i’r aradwr ddod i mewn i baratoi llecyn fan hyn a fan draw ar gyfer plannu tato neu maiz.

Mae’r da byw, fel yr ebolion yma, sydd wedi bod yn cyfrannu at y tir yn eu ffordd eu hunain dros y misoedd diwethaf, yn cael eu symud i’r cae nesaf. Dyw e ddim beth fyddai rhywun yn ei alw’n amaethyddiaeth arddwys, ond mae’n hen ffordd o fyw.

Ac mae’n bwrw glaw heddiw – mae ei angen e, rhaid dweud.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: