Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 14, 2011

O’r Gegin: Tarten Lemwn Dda

Nôl ym mis Rhagfyr ysgrifenais i gofnod ynglŷn â’r problemau a gefais wrth weithio tarten lemwn. Yn y bôn: y toes yn pallu aros yn un darn a’r cymysgedd lemwn-a-wyau yn llifo mâs drwy’r tyllau tra’r roedd e yn y ffwrn.

Nawr rwyf i wedi rhoi cais arall arni, a’r tro yma yn llwyddiannus. Dyma’r newidadau:

lleihau pwysau’r menyn yn y toes. Roedd y rysait gwreiddiol yn gofyn am gymaint o fenyn ag o gan neu flawd. Y tro yma rhois i 3 parth menyn i bob 4 parth blawd. Roedd y crwst yn dal yn ‘gyfoethog’ ond y toes yn haws ei drin. Y tro nesaf efallai rhof i ychydig o gnau Ffrengig wedi’u malu i fewn hefyd.

pobi ddwywaith. Dodais i’r toes yn y tin gyda dalen o bapur gwrth-saim, a’i lenwi gyda ffa. Rych chi’n gallu prynu rhai tseina, ond y tro yma ffa iawn oedd gen i. Aeth y cwbl i’r ffwrn ar 180C am 20 munud.

ffa pobi ffoto:cathasturias

Pan dynnais i hi mâs roedd sawl lle lle’r oedd y toes wedi suddo rownd yr ochrau, ond fel ych chi’n gweld yn y llun roeddwn i wedi cadw ychydig wrth law i’w drwsio.

llai o gymysgedd lemwn. Roedd y rysait yn gofyn am 5 wy, 200ml sudd lemwn, 125g siwgr a 100g menyn. Rhois i 4 wy a dipyn bach yn llai o bob dim arall. A’r canlyniad:

tarten lemwn ffoto:cathasturias

Tarten hyfryd, y canol tua 2cm o ddyfnder, a dim byd wedi gollwng. Ond dyw hi ddim yn edrych yn broffesiynol iawn felly bydd rhaid imi wneud un arall – wythnos nesaf. Mae’r holl broses yn cymryd tipyn o amser.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: