Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 17, 2011

O’r Ardd: y Mis Bach.1

Mae’r pythefnos o dywydd gwanwynol a gawsom wedi rhoi hwb ymlaen i waith yr ardd. Mae’r tocio wedi ei gwblhau (er ein bod ni wedi penderfynu gadael rhai o’r coed heb eu torri, a gwneud hynny ym mis Mehefin, er mwyn gweld a fydd hynny’n atal rywfaint ar eu tŵf).

Mae tocion y llynedd naill ai wedi mynd i’r ffwrn goed, neu wedi’u malu i fod yn orchudd, neu wedi gorffen yn y coelcerth.

Rhai o docion eleni sydd i’w gweld ar y dde, ac yn y cefndir, bambŵ. Weithiau mae’n tyfu’n ddigon trwchus i’w ddefnyddio fel cansenni, weithiau ddim. Eisiau safle hyd yn oed yn dawelach na hwn sydd arno, ymhell o gyrraedd gwynt na rew. I lawr wrth yr heol fawr mae ‘na beth, yn tyfu ynghanol coed eraill, sy’n edrych yn ddigon tew i wneud sgaffaldau.

Mae’r lludw yn mynd rownd traed y ffa llydain, fydd yn barod i’w bwyta unrhyw ddydd. Fabes de mayo – ffa mis Mai – yw’r enw ar lafar fan hyn, sy’n awgrymu nad ydyn nhw (neu nad oedden nhw) i fod yn aeddfed mor gynnar â hyn.

Mae’n dda cael cwblhau tasg fel y llosgi: ni fydd rhaid ei wneud eto am fisoedd. Ond mae’n golygu bod yn rhaid mynd yn ôl at y chwynnu. Chwynnu. Chwynnu. O hyn tan yr haf. Joio.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: