Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 18, 2011

Hyll ond ‘Biutiful’

Ffilm hir (dwy awr a hanner)yw Biutiful; ond un wnaeth gadw’m llygaid a’m meddwl i yn gaeth i’r sgrîn drwy gydol yr amser.  Ffilm sydd wedi ei enwebu ar gyfer Oscar – ffilm orau mewn iaith heblaw Saesneg, ac actor gorau i Javier Bardem.

Mae perfformiad Bardem yn anhygoel: mae’n ymddangos ymron pob golygfa, a’i berthynas ef gyda’i wraig (alcoholig a deubegwn), ei blant, ei frawd a byd y mewnfudwyr di-bapurau lle mae’n ennill ei damaid, yw sgerbwd yr hanes. (A hynny heb sôn am ei berthynas gyda’i dad, a fu farw cyn iddo gael ei eni.) Dwi ddim eisiau dweud gormod am ddigwyddiadau’r plot; maen nhw’n lliaws ac yn aml yn annisgwyl a dwi ddim eisiau sbwylo’r peth i neb. Mae Uxbal, y prif gymeriad, yn byw ar waelod cymdeithas dinas Barcelona. Nid Barcelona’r twristiaid na’r pêl-droed, ond cartref y bobl sy’n cadw hynny i gyd i fynd ac yn danfon arian yn ôl i Tseina neu’r Affrig. (Mae e hefyd â dawn rhyfedd: mae’n gallu clywed lleisiau’r newydd-ymadawedig. Mae’n mynychu angladdau ac yn cael ei dalu gan y teulu am drosglwyddo negeseuon y meirw.)

Mae’n swnio’n berson erchyll,  ond mae e lot mwy cymhleth. Drwy’r ffilm mae rhywun yn ei weld yn gwneud pethau da dros ei deulu neu dros y mewnfudwyr, a hynny er gwaethaf datblygiad ofnadwy yn ei fywyd personol ef. Ond rywsut dyw ei fwriadau da ddim yn dwyn y ffrwyth yr oedd yn disgwyl; trist iawn yw’r diweddglo.

Alejandro Iñárritu yw’r cyfarwyddwr. Mae wedi gwneud ffilmiau da o’r blaen (Amores Perros, 21 Grams) ac ambell un y byddai’n well ei hanghofio (Babel), ac mae Biutiful yn bendant yn un o’r rhai da. Gwrthdaro di-baid yw ei nôd: rhwng y cymeriadau ar raddfa unigol a chyffredinol, ym meddwl Uxbal ei hun, ac yn steil y ffilm. Ffeithiau realistig erchyll yn taro yn erbyn golygfeydd prydferth. Cerwch i’w gweld!

A dyma ffaith fach ddiddorol am Javier Bardem: chwaraeodd e rygbi i dîm dan-18 cenedlaethol Sbaen. Prop oedd e.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: