Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 20, 2011

Môr a Mynydd

Pigion o’r newyddion yma yng ngogledd Sbaen heddiw:

Mae drychiolaeth y Prestige, y llong olew a suddodd oddi ar arfordir Galicia yn 2002, eto’n hongian yn yr awyr, flynyddoedd ar ôl i’r olew gael ei glirio o’r traethau a’r creigiau.

Yn gyntaf, mae’r achos yn erbyn y perchnogion, y capten a’i swyddogion, a chyn-bennaeth Gweinyddiaeth y Môr, wedi ei ohirio eto. Ddiwedd y flwyddyn yma fydd hi nawr, neu hyd yn oed ddechrau 2012. Dyna yn union pryd y disgwylir yr etholiadau cyffredinol nesaf: fe glywn ni ragor am y penderfyniadau rhyfedd a gymerwyd i orchymyn y Prestige i hwylio bant o’r tir yn lle dilyn y drefn arferol a cheisio lloches fel y gellid tynnu’r olew oedd ynddi’n ddiogel.  Mae’r cyn-weinidog Alvarez-Cascos yn awr wedi gadael y PP ac yn bwriadu sefyll yn etholiadau Asturias eleni gyda’i blaid newydd Foro Astur, ond ar y pryd fe’i feirniadwyd yn hallt am beidio gadael ei benwythnos o hela i gymryd yr awennau pan oedd yn amlwg bod trychineb ar y gorwel.

Ar yr ochr orau, mae’r weinyddiaeth yn awr (9 mlynedd wedyn) wedi paratoi rhestr o lochesi y gellir eu defnyddio, yn dibynnu ar faint a chyflwr y llong. Mae 70 yn Galicia, a  39 ohonyn nhw yn Asturias. Ond hyd yn hyn dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi lle maen nhw.

Ac ymhell o’r môr, ym mharc y biosffer yn Muniellos, yn ne-orllewin Asturias, mae Ymddiriedolaeth yr Arth wedi plannu dros 10,000 o goed ceirios. Bydd y rhain yn dwyn bwyd da i’r eirth ym misoedd Mehefin a Gorffennaf, cyn bod y rhan fwyaf o ffrwythau’r mynydd yn aeddfedu. Ryw ddydd fe ga’i dynnu llun arth, gobeithio!

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: