Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 21, 2011

Galarnad y Cyw Athrawon

Newyddion drwg i’r miloedd a raddiodd yn Asturias y llynedd yn gobeithio mynd yn athrawon. Fydd na ddim swyddi eleni. Dim un. Mae llywodraeth y gymuned wedi penderfynu peidio â chynnal yr arholiadau (oposiciones) y mae’n rhaid eu pasio i ennill statws gweithiwr cyhoeddus ar lefel athro.

Mae’r gyfundrefn yn fiwrocratig (braidd!): ar ôl mynd drwy’r brifysgol a derbyn hyfforddiant proffesiynol, os ydy rhywun am weithio o fewn y sector cyhoeddus (y rhan fwyaf llethol o ysgolion Sbaen), mae’n rhaid sefyll yr oposiciones. Bob blwyddyn, mae pob cymuned, Asturias, Galicia ac yn y blaen, yn cyhoeddi faint o swyddi sydd ar gael: os bydd 1000, y mil uchaf eu marciau fydd yn cael lle. Dim ond wedyn y bydd y darpar-athrawon yn cael gwybod yn swyddogol pa ysgolion sydd eisiau rhywun i ddysgu eu pynciau arbennig nhw.

Beth bynnag am hynny, eleni dim ond 6000 o lefydd sydd ar gael drwy gydol Sbaen, o Pontevedra i’r Mar Menor. A dim un yn Asturias. Yr amcangyfrif yw y bydd 2000 yn fwy o raddedigion ifainc yn gorfod gadael cartref i chwilio am waith.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: