Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 22, 2011

O’r Ardd – y Paratoi

Rhaid dweud bod y paratoi wedi bod yn haws nag arfer eleni oherwydd y tywydd mwyn.

Dyma’r garlleg, a gafodd ei blannu ddiwedd mis Hydref! Eithafol braidd, ond y llynedd aeth i fewn yn hwyr (tua’r adeg yma a dweud y gwir), wedyn pan oedd e tua’r maint yma daeth tywydd sych ac fe ddioddefodd yn fawr. Mae garlleg a wynwns eisiau mwy i ddŵr nag y byddai rhywun yn meddwl: fel arfer dyw hynny ddim yn broblem yma, ond fe all fod. Ta beth, bu’n rhaid inni brynu garlleg drwy’r gaeaf. Mae’r argoelion yn well ar gyfer y gaeaf i ddod.

A’r mafon wedyn. O ddarllen llyfrau mae ‘n wahanaiaeth yn y ffordd o docio’r rhai sy’n dwyn ffrwyth ym mis Mehefin a rhai’r hydref. Ond yma yn Asturias (wel, llynedd o leiaf, ein blwyddyn gyntaf) fe ddaeth ffrwyth ddwywaith. O siarad â’r ychydig o bobl eraill sy’n eu tyfu nhw, dyna sy’n debyg o ddigwydd, felly fe gawson nhw eu tocio i gyd. Cawn weld a oedd hynny’n iawn neu beidio.

Dal i aros i’r ffa llydan achos dyw hi ddim wedi bod mor dwym y dyddiau diwethaf yma, ac yn aros i’r blodfresych i benderfynu nad cabaits ydyn nhw. Ond mae sawl pwmpen ar ôl ac yn dal yn felys, a’r ffa wedi’u sychu, a’r wynwns. Dim ond bod eisiau rhywfaint o lysiau glas ar rywun wrth weld y gwanwyn yn agosau. Mae dail garlleg yn dda, o beth dwi’n ei glywed.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: