Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 25, 2011

Arbed Olew, Achub Bywydau?

O dydd Llun 7 Mawrth ymlaen, bydd trafnidiaeth ar ffyrdd a thraffyrdd Sbaen yn cael ei chyfyngu i 110km yr awr, yn lle 120. Hynny yw, o 75 i 70 milltir yr awr. Nid oherwydd nifer y damweiniau na’r bobl sy’n marw neu’n dioddef anafiadau, ond er mwyn arbed tanwydd. Cyd-ddigwyddiad efallai yw bod y cyhoeddiad yn dod yng nghanol chwyldro Libia, ond fel yr ydym ni i gyd wedi darllen erbyn hyn ‘olew Libia yw un o’r goreuon ar gyfer petrol a diesel ac mae gwledydd Ewrop yn dibynnu’n helaeth arno’. Ac mae’r ffaith fod y newid yn mynd i barhau ‘amser amhenodol’ yn awgrymu efallai taw ‘hyd at ddiwedd yr argyfwng yng ngwledydd yr olew’ fydd hi mewn gwirionedd.

Yn ystod yr wythnos nesaf, felly bydd digon o waith i gael i fois yr heol yn newid arwyddion a chyfarpar radar. Gan taw mesur yw hwn sy’n ceisio arbed olew (ac arian) yn hytrach na bywydau, fydd gyrwyr rhy gyflym ddim yn cael pwyntiau ar y trwydded, ond byddan nhw yn cael eu dirwyo am fynd dros 110km/awr.

Dim ond unwaith mae awdurdodau Sbaen wedi gweithredu fel hyn o’r blaen: yn ystod yr argyfwng olew ym 1973, pan ddaeth y cyfyngiad 120km/awr i fodolaeth. Cyn hynny doedd na ddim cyfyngiad o gwbl ar y priffyrdd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: