Mae bachgen 14 oed yn ddifrifol wael yn ysbyty prifysgol Asturias ar ôl damwain arall ar groesfan drên. Cafodd car ei fam ei wthio 250m ar hyd y lein gan drên oedd yn cario rholiau o ddur: mae’r trenau yma’n pwyso tunnelli lawer a fel arfer dydyn nhw ddim yn stopio o gwbl yn ystod eu taith ar hyd yr arfordir.
Yn ein pentre ni mae’r croesfannau i gyd wedi cael eu cau i drafnidiaeth, ond ym mhentre San Roque mae ‘na 7 ohonyn nhw, gyda rhai sydd dim ond yn arwain i gwpwl o dai. Does neb yn gwybod eto pam na safodd y fam yn y groesfan: mae’r trenau dur yn pasio ar yr un amser bob bore, yn ôl eu hamserlen. Ac roedd hi’n gyrru ar hyd y ffordd yna bob bore hefyd, hithau ar ei ffordd i’r gwaith a’i mab i’r ysgol.
Ar un pryd roedd sôn y byddai’r cwmni rheilffordd, y FEVE, yn codi pontydd dros y lein yn San Roque, ond doedd y trigolion ddim yn fodlon. Gwell ganddyn nhw gael clwydi a chlychau. A nawr efallai y cân nhw hynny.
Diweddaru ar hanes Corquiéu: enillodd y grŵp o Ribadesella ddim o’r gystadleuaeth Cân yn Astwreg. Ond mae’r enillwyr yn ddiddorol hefyd: Skama la Rede o Villaviciosa, band sy’n cyfuno’r pibgorn, ska’r Caribî ac ambell i gyffyrddiad pyncaidd. Joio!
Gadael Ymateb