Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 27, 2011

Cadoediad ETA: beth nesaf?

Fe allai ETA ddiflannu o fewn misoedd, yn ôl un o hynafgwyr cenedlaetholdeb Euskadi, Gwlad y Basg. Mewn cyfweliad yn y papur newydd Sbaeneg El País, dywed Carlos Garaikoetzea y gellir datrys y ‘cwestiynau technegol’ o fewn misoedd, os digwydd hynny heb greu dioddefwyr. Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu’r cadoediad a wnaeth ETA ym mis Ionawr eleni, ei ateb oedd bod datganiad y grŵp wedi glynu at egwyddorion Mitchell, y rhai a arweiniodd at ail-greu senedd gogledd Iwerddon drwy rannu pŵer. Hynny yw: bod pawb yn ceisio datrys anghydfod mewn ffordd heddychlon; pob grŵp arfog yn rhoi heibio’i arfau, a hynny mewn ffordd gwiriadwy; pawb yn cadw at unrhyw gytundeb a wneir rhwng y grwpiau i gyd o fewn y broses; a diwedd ar y lladd ac anafu er mwyn ‘cosbi’.

Mae Garaikoetzea, llywydd cyntaf senedd y Basgwyr ar ôl cyfnod yr unbeniaeth, yn beirniadu llywodraeth Madrid am ei hamarodrwydd i gymryd o ddifrif y grŵp o wleidyddion ac uchel swyddogion rhyng-genedlaethol a roddodd sêl bendith i’r datganiad diwethaf. (Ers hynny mae Grŵp Cysylltu newydd wedi’i sefydlu, sy’n cynnwys arbenigwyr fel Brian Currin a Nuala O’Loan, gyda’r bwriad o hyrwyddo’r broses.)

Beth sydd yn sicr yw bod pobl Gwlad y Basg yn dyheu am weld diwedd  ‘blynyddoedd y plwm’ – h.y. y bwledi a’r bomiau. Fel ‘troubles’ Iwerddon, rhaid oedd cael enw llai poenus ar gyfnodau o ymladd a thrais o fewn gwlad.

 

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: