Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 1, 2011

Cadw Llysiau – Rhewi

Dysgu sut i gadw llysiau ydw i o hyd, ac yn hen law ar y storio a’r sychu a’r cyffeithiau erbyn hyn. Dwi wedi potelu ambell i ffrwyth hefyd, yn enwedig eirin, ond rwyf i wastad yn poeni na fydda’i wedi’u berwi nhw ddigon, neu wedi gadael aer i fewn wedyn neu rywbeth. Hydref nesaf, rwy’n golygu cael wythnos o arbrofi.

Mae’r rhewgell yn stori arall. Doedd e ddim yn opsiwn i’r cymdogion fan hyn tan yn weddol ddiweddar (ryw 30 mlynedd yn ôl), ac mae llawer yn dal i botelu pupurod, neu tiwna, fel maen nhw wedi gwneud erioed. Ond imi mae rhewi yn gymorth mawr i gadw pethau mewn stâd gweddol ‘naturiol’, fel ein bod yn eu defnyddio nhw i gyd (osgoi gwastraff), a’u mwynhau nhw am gyfnod hirach os nad rownd y rîl (achos dweud y gwir, dyna beth mae rhywun wedi arfer ag e).

Pupurod coch, er enghraifft. Mae’r rhai yma’n boeth ond heb fod yn boeth iawn – yr union beth i’r cyffaith tomato-a-chile mae pawb mor hoff ohono. Ond dydyn nhw ddim ar werth fan hyn yn nwyrain Asturias y tu fâs i’w tymor (yr hydref). Felly mynd ati i’w torri yn eu hanner (doedden nhw ddim yn fawr iawn), a thynnu’r hadau. Rwy’n gwisgo menig i wneud hyn oherwydd yr adwaith yr wyf yn ei ddioddef i’r capsaicin, y cemegyn sy’n achosi’r gwres. Eu blansio, eu sychu, ac i fewn â nhw i’r rhewgell.

Yr helogan wedyn. Mae’r planhigion sydd gyda fi’n dechrau’r trawsnewid sy’n digwydd ar ddechrau’u hail flwyddyn, pan fyddan nhw’n cynhyrchu hadau. Mae angen torri’r coesau’n fân cyn eu blansio (rwy’n defnyddio hen fasged sglodion oddi fewn i’r sospan i’w cael nhw mewn a mâs yn glou). Wedyn sychu, sy’n bwysig iawn ar gyfer eu cadw nhw’n dda, a’u cadw mewn blychau bach – faint y byddech chi’n ei ddefnydddio at un pryd.

A Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i bawb!

 


Ymatebion

  1. Ti wedi son am y sychwr sydd gennyt yn y gorffennol; ydi pupurod a chillies yn well wedi’u sychu yntau eu rhewi?
    Dwi wedi gweld rhaffau ohonynt yn sychu yn yr haul yn yr Eidal. Ydi hyn yn gyffredin yn Sbaen? Dwi wedi llwyddo i sychu chillies o linyn yn y gegin.
    Gyda llaw, i gyfeirio ‘nol at sgwrs gynharach: mae yna ddarn o’r enw ‘E korn al LIORZH. Yng nghornel yr ardd’, yn rhifyn Chwefror o gylchgrawn Cymdeithas Cymru Llydaw.
    Mae’r Llydawyr felly yn dal i ddefnyddio LLUARTH, ond ei fod wedi colli’r ystyr ‘gardd lysiau’ efallai ac yn golygu gardd yn gyffredinol.

    • Yn y rhan fwyaf o diroedd Sbaen mae pupurod yn sychu’n dda yn yr haul (felly hefyd ham); ond yma mae’n rhy llaith, heblaw i chiles bach iawn fel rhai cayenne. Wedyn mae’n dibynnu at beth yr wyt ti am eu defnyddio: i’r cyffaith, rhaid eu cel nhw mor agos i ffres ag sy’n bosib, ond i’w coginio gyda chig neu bysgod, yn aml bydd y rhai wedi sychu’n well. Mae’r pupurod wedi eu potelu fel arfer yn cael eu bwyta ar eu pennau’u hunain, gyda bara, ar ddechrau’r pryd. Diolch am y nodyn ar liorzh.


Gadael ymateb i Wilias Diddymu ymateb

Categorïau