Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 2, 2011

Cenedl heb Waith

4.3 miliwn yn Sbaen. 88,000 yn Asturias (lle mae’r boblogaeth gyfan tua’r miliwn a llawer ohonyn nhw wedi ymddeol) – a 10% o’r rheiny yn bobol ifainc o dan 25 mlwydd oed. Mae tyrfaoedd y di-waith yn Sbaen yn tyfu eto, er gwaethaf y newidiadau yn y farchnad lafur ac yn y gyfundrefn ariannol. Yn Asturias, mae nifer y di-waith wedi codi 5% mewn blwyddyn; yn Sbaen i gyd, 4%.

A does neb i weld yn cynnig unrhyw syniadau newydd. Mae’r gweithwyr adeiladu a gollodd eu swyddi yn 2008-9 yn awr wedi dod i ddiwedd eu cyfnod o fudd-dal arbennig, ac un ai wedi allfudo neu wedi mynd i weithio yn y cysgodion. Mae arweinwyr yr undebau’n beio’r llywodraeth sosialaidd am roi i fewn i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn lle amddiffyn hawliau’r gweithwyr a dal i wario arian y dreth ar greu swyddi. Mae arweinydd y ceidwadwyr yn rhy brysur yn sôn am fewnfudwyr (a’r syniad o’u hintegreiddio i’r boblogaeth leol, syniad sydd ar fri yn yr Almaen) i feddwl am yr allfudwyr o’i wlad ei hun.

Ac mae’r prif weinidog ei hun wedi bod yn y Dwyrain Canol, lle mae teuluoedd brenhinol sydd eto heb dioddef y chwyldro Arab ond yn rhy fodlon prynu cyfranddaliadau mewn banciau yn Sbaen.

Amser i bawb i ddechrau trin y pwnc yma fel rhif un ar agenda’r wlad: cenedl heb waith, cenedl heb galon.

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: