Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 3, 2011

Lluniau’r Aber

Yn ôl at fy hoff destun lluniau: aber y Guadamía. Mae’n rhy oer heddiw i weithio yn yr ardd (y gwynt yn torri fel gweiren gaws yr holl ffordd o’r Arctig) a does gen i ddim byd sydd yn rhaid ei wneud yn y gegin. Hel lluniau felly, a cheisio rhoi rhyw drefn arnyn nhw.

Dyma’r aber ar ddiwrnod gwahanol iawn i heddiw, yn llawn cymylau ond dim awel o gwbl. Dŵr lliw’r graig, lliw’r tywod, yn lle adlewyrchiad o awyr las. Dyw e ddim yn edrych fel rhywle y byddai rhywun am fynd i nofio, ond a dweud y gwir mae’n gallu bod yn fwyn iawn ar ddiwrnodau fel hyn.

Roedd y llun o’r blaen wedi’i dynnu o safle sydd i’w weld ar y dde yng nghefn y llun yma (ar ddiwrnod arall, yn amlwg), ac mae’r ddau gyda’i gilydd yn rhoi syniad o gymaint y mae’r afon yn ymdroelli rhwng y clogwyni. Mae dŵr y penllanw yn cyrraedd ryw gan metr uwchlaw’r llecyn hwn.

A dyma fe’n dod: tonnau cymedrol eu maint yn tynnu’n rheolaidd am y traeth. Mae eisiau bod yn dipyn o nofiwr i hala mwy na 5 munud yn eu cwmni nhw.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: