Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 4, 2011

Diflaniad y Pysgod

Mae porthladdoedd a physgotwyr Asturias o dan y lach fel na fuon nhw erioed o’r blaen. Eleni, mae’r awdurdodau Sbeinig wedi gwahardd hyd yn oed pysgota mecryll: pysgodyn a fyddai wedi’u cadw nhw i fynd tan ddiwedd mis Ebrill fel arfer. Mae’r pysgotwyr fel pawb arall yn gorfod mynd ar y dôl. Diwydiant bach lleol yw pysgota yn Asturias: yn Galicia ac wrth gwrs yn Llydaw mae treillongau mawr sy’n hwylio mâs i ddyfroedd yr Iwerydd, i arfordir Morocco, ac er gwaetha’r môrladron, hyd yn oed i Gefnfor yr India. Mae cychod pysgota yr ardal yma yn hala noson neu ddwy yn unig ar y môr cyn dod yn ôl i werthu’r hyn sydd gyda nhw.

Y gwir yw bod llai o bysgod ym Mae Vizcaya fel mewn llawer i le arall, a mwy o bobl drwy’r byd i gyd am fwyta pysgod. Ai ffermio pysgod yw’r ateb? Rwy’n siŵr ei fod yn rhan o’r ateb: mae digon o lefydd ar hyd yr arfordir sydd â dyfroedd cymharol tawel (ond heb draethau – sdim eisiau distrwyo’r diwydiant ymwelwyr er mwyn achub y diwydiant pysgota). Mae cymaint o wahanol fathau o ffermio pysgod erbyn hyn: ffermydd eog yr Alban, lle mae’r pysgod yn byw drwy’u hoes, ffermydd cregyn gleision Galicia ar ysgraffau, a’r ffermydd hynny sydd yn magu sil pysgod ac yna’n eu rhyddhau i’r dŵr mawr.

Ond petawn i’n berchen cwch, rwy’n credu taw paratoi at fynd â thwristiaid i bysgota fyddwn i’r haf yma: y llynedd roedd y llongwyr yn weddol obeithiol, yn meddwl bod pethau’n troi cornel, ond heddiw mae hwwnw’n edrych fel blip.

(Rwy’n ceisio cadw golwg ar ganlyniadau’r refferendwm wrth gwrs, ond efallai wna’i aros tan ddiwedd y dydd.)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: