Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 6, 2011

Blodau a Haul

Y gwynt oer wedi gostwng (peth) a’r haul wedi disgleirio drwy’r dydd. Diwrnod o, ie, chwynnu, ond hefyd plannu wynwns coch a sialots/sibwns.  Y coed ffrwythau sydd wir yn cyhoeddi neshâd y gwanwyn.

blodyn y nectarina ffoto:cathasturias

Mae blodau’r nectarina, eirin, a’r eirin gwlanog yn ymddangos cyn y dail, ac yn addo cynhaeaf da eleni. Ond mae misoedd rhwng nawr a diwedd mis Awst pan fyddan nhw’n aeddfed, felly pwy a ŵyr a gwblheir yr addewid. Yn rhyfedd, dyw blodau’r bricyll ddim wedi agor eto; fel arfer maen nhw ymysg y rhai cyntaf.

blodau'r eirin ffoto:cathasturias

Beth sydd yn bwysig yn awr yw peidio cael cyfnod oer eto, fydd yn cadw’r gwenyn rhag ddod mâs, na chwaith y gwynt oer yna fydd yn distrywio’r blodau cyn iddyn nhw cael eu peillio.

Beth bynnag, roedd hi’n ddigon twym heddiw inni fod yn yr ardd drwy’r dydd, a hyd yn oed eistedd yno’n paratoi’r llysiau at heno – ffa llydan (ychydig), cennin a betys arian.

Advertisements

Responses

  1. Mi gawsom ninnau ddiwrnod braf ar y 6ed hefyd, a mwynhau cinio bach yn yr ardd, ac oriau o chwynnu a pharatoi’r gw’lau llysiau aballu. Ond o mor wahanol ydi hi gymaint pellach i’r gogledd na ti! Heblaw am y rhiwbob, does dim byd arall i’w weld (ag eithrio ambell beth sydd yma dros y gaeaf: cel, cennin a brocoli!
    Dychwelodd y barrug wedyn hefyd ar y 7fed a’r 8fed.
    Y gwynt yn dod o’r de wedyn a’r tymheredd uchaf yn cyrraedd 13.6C …tipyn o waith aros eto, felly ‘mynadd pia hi!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: