Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 7, 2011

O’r Ardd: Ambell i Flodyn

Mae newydd droi saith o’r gloch y nos: yr haul wedi machlud ond yr awyr yn dal yn las neu’n gwmwl-binc. Diwrnod yn yr ardd ac wedyn taith fach sydyn i’r dre i brynu cig at heno a ham at yfory. Mae yfory’n ddiwrnod antroxu, y carnifal Astwraidd, pan fydd pawb yn bwyta’n dda – hyd yn oed y rhai (y mwyafrif) sydd ddim yn cadw’r Grawys o ddifri.  Ewn ni i gael cinio ym mar y pentref: cawl cig moch ac, ie, pancws.

Mae’r coed afocados a dyfodd o gerrig gafodd eu towlu i’r compost wedi goroesi’r gaeaf yn well eleni, a mawr yw’r gobaith y bydd y blaguryn hwn yn datblygu’n flodyn. Maen nhw’n cymryd blynyddoedd lawer i ddwyn ffrwyth  ond byddai gweld blodau yn rhywbeth!

Gwaith y diwrnod imi heddiw oedd clirio llecyn cyfan lle’r oedd y chwyn wedi gwneud cartref cyfforddus, er mwyn dodi toriadau o margueritas – blodau fel llygaid y dydd, ond planhigyn maint dahlia –  a ges i gan gymdoges ddoe. Rwyf i yn ceisio plannu’r ‘anrhegion’ yma mor fuan ag sy’n bosib, ond rhaid cyfaddef fy mod i ar brydiau wedi anghofio amdanyn nhw’n gyfan gwbl a’u gadael mewn bwced nes bod y dŵr i gyd wedi sychu. Dim y tro yma.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: