Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 9, 2011

O Ardd y Perlysiau: Taragon

Mae perlysiau wedi dod yn rhan hanfodol o’m bywyd: yn y gegin ac yn yr ardd. Mae’u persawr (mae’r Sbaenwyr yn eu galw’n aromaticos) yn denu gwenyn a’u harogl a’u blas yn ychwanegu’n fawr at blatiau sawrus neu felys.

Fel pawb arall, yn y dechrau dim ond persli a mintys a dail llawrwydd oedd yn gyfarwydd (ydy cennin sifis yn cyfri?), ond dros y blynyddoedd rwyf i wedi dod yn fwy hyderus gyda’r brenhinllys, saets a rhosmari (y ddau’n gryf iawn – 2 sbrigyn ar y mwyaf), penrhudd a tharagon a choriander.

taragon ffoto:cathasturias

Dyma’r taragon, sydd erbyn hyn yn 3 blwydd oed. Mae’n marw nôl yn y gaeaf a newydd ddechrau towlu sbrigau newydd eleni. Taragon Ffrainc, artemisia dranunculus, yw hwn, ac mae hynny’n bwysig. Dyw’r un Rwsaidd ddim werth ei brynu; mae ei sawr yn rhy fras. Y broblem gyda tharagon Ffrainc yw nad yw’n bosib ei dyfu o hadau, yn ôl popeth yr wyf i wedi darllen. Yr unig ffordd i gael planhigion newydd yw rhannu’r hen un. Heddiw oedd y tro cyntaf erioed imi wneud hyn, ac roedd yn anos na’r disgwyl. Mae ‘gwasg’ y taragon, lle mae’r gwreiddiau a’r sbrigau’n cwrdd, yn un goes denau. Bu’n rhaid imi dorri i lawr canol y planhigyn gyda chyllell finiog, ac wedyn roedd gyda fi yr hen blanhigyn (ffoto uchod), 2 fach go dda gyda bob o wreiddyn a sbrigyn, 3 darn o wreiddyn ac un sbrigyn di-wreiddiau.

Dodais i nhw i gyd yn y pot, mewn llecyn bach i ffwrdd o’r haul a’r gwynt, ac mewn rhyw fis gobeithio y byddaf yn gallu gweld mwy o ddail!

Dyw taragon ddim yn rhywbeth i’w goginio am amser hir: gwell ei ychwanegu tua diwedd y broses. Ond gyda chyw iâr, neu wyau, neu’n well na dim, gyda physgod, bydd y blas wir yn dod ag elfen newydd i’r pryd.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: