Daeth tonnau’r môr yn gryfach eto heddiw, yn eu hyrddio eu hunain tua’r clogwyni ac yn tasgu uwch pennau’r creigiau – 50m, yn hawdd.
Roedd y môr ar drai, o fewn awr i’r pwynt isaf, a chi’n gallu gweld y dŵr yn y blaen yn cael ei sugno mâs i’r Iwerydd. Efallai taw dyna sy’n gyfrifol am y ffaith bod y tonnau’n torri, ac yn dangos eu pennau gwyn, yn bellach mâs na’r arfer. Bewth bynnag am hynny, mae’r tonnau, a ddechreuodd eu taith filoedd o filltiroedd yn ôl, yn dod yn eu blaen.
Roedd y sŵn yn fyddarol, ond doedd yr holl nerth ddim yn arwain at ryfeddod y lle: y bufones, neu ffynhonnau o ddẃr y môr sy’n cael eu wthio drwy twneli cul yn y clogwyni ac yn saethu mâs yn uchel i’r awyr.
Mae gweld y môr a’r tonnau yn eu hanterth yn gwneud i rywun ofyn pam nad ydym ni’n ei ddefnyddio fwy i wneud ynni: ond ddoe roedd hi fel llyn, a phwy a ŵyr sut stâd fydd arni yfory. Ta beth, rhaid imi gofio’r tro nesaf bod yna botwm i tynnu fideo ar y camera.
Es impresionante, Kati. Casi oigo las olas.
By: Carmen on Mawrth 10, 2011
at 11:11 pm