Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 11, 2011

Diwrnod Crynu’r Ddaear

Rwy’n teimlo’n fach iawn heddiw yn chwynnu’r ardd flodau ac yn penderfynu ble i blannu pethau newydd yr haf yma. Mae daeargryn Siapan wedi ac yn fy atgoffa mewn ffordd amhosib ei anwybyddu taw dim ond prydles fer sydd gyda ni ar ein milltir sgwâr, a honno’n lês y gellir rhoi diwedd arni’n unionsyth.

Ddoe roeddwn yn sefyll yn stond, yn edrych ar donnau’r Iwerydd yn cwrdd â chlogwyni’r Guadamia gyda chlep anferth. Ond roedd y tonnau’n aros lle ‘ddylen nhw’ fod, ar wyneb y môr. Do, fe feddyliais i ‘falch nad ydw i ddim yn gorfod nofio yn hwnna’, oherwydd nid nofio y byddai rhywun ond yn cael ei dowlu o gwmpas fel tegan. Ond roeddwn i’n saff ar ben y creigiau, yn mwynhau gwylio.

Mae hyd yn oed nifer y bobl sydd ar goll yn anodd ei amgyffred; rwy’n siŵr y bydd llawer yn troi lan yn ddiogel, wedi cael lloches yn rhywle. 88,OOO a welais i ar un wefan – mae hynny’n gymaint â phoblogaeth Llanelli a Wrecsam gyda’i gilydd. A’r dyddiau yma, gyda phawb yn fwy neu lai ‘mewn cysylltiad’ drwy’r amser, a’r teulu felly yn gweld eu colli nhw ar unwaith, fe all y ffigwr fod yn iawn.

Fan hyn, wrth gwrs, mae tsunami o’r fath yn atgoffa pobl am y Cumbre Vieja, mynydd ansefydlog yn Islas Canarias y disgwylir iddo lithro i’r môr ryw ddiwrnod ac achosi rhywbeth tebyg.  Ond heddiw rydym i gyd yn meddwl am bobol Siapan.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: