Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 12, 2011

Bulnes 2011

Reit, amser i ysgrifennu cofnod byr cyn y gêm. Cyrraedd yn ôl o’r mynyddoedd i gael gwybod bod yr Eidal wedi maeddu Ffrainc, anhygoel.

Buom ni ar hyd llwybr Bulnes unwaith eto, un o’m hoff lwybrau yn y Picos de Europa, yn enwedig ar ddechrau’r gwanwyn. Mae muriau’r mynyddoedd o’i ddeutu yn diogelu cwm yr Arroyo del Tejo (Nant yr Ywen) rhag y gwynt, a blodau’n ymddangos yn gynnar ar hyd y llwybr. Hyd at 10 mlynedd yn ôl dyma’r unig ffordd i gyrraedd Bulnes: yn awr mae ‘na drên sy’n dringo i’r pentref mewn twnel y tu fewn i’r mynydd.

llwybr Bulnes ffoto:cathasturias

Doedd dim llawer o bobol yno heddiw, ond roedd y llwybr yn eithaf prysur: yn y man mwyaf cul bu’n rhaid inni ddringo i’r ochr i adael lle i’r ddiadell fynd heibio.

Maen nhw wedi codi llwyfan newydd ychydig uwchlaw pentref Bulnes i bobol gael gweld Pico Urriellu, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Naranjo de Bulnes’, craig anferth o fynydd sy’n edrych dros ysgwydd y gweddill.

Doedd y tywydd ddim yn arbennig o glir heddiw, ond mae wastad yn edrych fel ysbryd mynydd imi. Ac a dweud y gwir roeddem ni’n falch nad oedd hi’n heulog, oherwydd mae’r llwybr yn codi 300m rhwng Puente Poncebos a Bulnes, a hynny mewn rhyw awr a hanner o gerdded.

Mwy yfory am y blodau, yn awr i ddilyn y gêm.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: