Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 13, 2011

Bulnes 2011:Blodau’r Gwanwyn

Dyma nhw rhai o’r blodau a welsom ni ddoe ar y daith gerdded o Puente Poncebos i Bulnes.

Addewid o’r tywydd gwell i ddod:

dail yr afu ffoto:cathasturias

Roeddwn yn synnu gweld y rhain yn blodeuo yn y mynyddoedd: prin eu bod nhw wedi dechrau gyda ni lawr ar yr arfordir, 500m yn is ac felly byddech chi’n meddwl yn fwynach. Hepatica nobilis yw’r enw gwyddonol.

briallen ffoto:cathasturias

Bydd y friallen felen hirgoes hon yn blodeuo o nawr tan y Pasg. Dim ond yn y mynyddoedd: fan hyn mae’r briallu byr cyffredin yn teyrnasu.

tafod y gors ffoto:cathasturias

Mae’r blodyn lliwgar hwn, tafod y gors, yn bwyta pryfed. Mae’r clêr yn mynd yn sownd yn yr hylif gludiog sy’n cael ei gynhyrchu gan y planhigyn.

Mis arall a bydd y crwynllys (gentiana) a sawl math o degeirian (orchidaceae) wedi dechrau dangos eu lliwiau.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: