Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 14, 2011

Pŵer y Môr II

Pawb wedi synnu at gryfder y tsunami a’r ffordd yr oedd ceir a thai wedi eu towlu ar hyd arfordir Siapan.

Canguro.Sta.Marina ffoto:cathasturias

Yma yn Ribadesella mae tri physgotwr yn lwcus iawn eu bod ar dir y byw ar ôl colli rheolaeth eu eu cwch dros y Sul. Roedden nhw’n dychwelyd rownd y penrhyn gyda 2000 kilos o bysgod, pan dorrodd y cabl oedd yn rheoli’r llyw. Mae’r aber yn droellog a’r sianel yn gul, a’r diwrnod hwnnw roedd y tonnau’n wirioneddol wyllt. Y môr oedd yn penderfynu symudiadau’r ‘Canguro’, nid y criw.  Ar ôl cael eu hyrddio sawl gwaith yn erbyn y wal, gwisgo’r siacedi bywyd a neidio i’r dŵr oedd rhaid.

Erbyn hyn roedd pysgotwyr eraill wedi gweld beth oedd yn digwydd, a daeth 2 ohonynt a phlismon lleol a phlymio i’r aber i geisio arbed y tri. Diolch byth yr oedd y môr yn eu cario nhw tua’r traeth ar lan orllewinol afon Sella, lle bu’n haws dod i’r lan.

Wrth siarad am eu profiad, fe ddywedodd y tri ei fod wedi parhau ‘oes’ yn eu meddwl nhw, ond ychydig funudau mewn gwirionedd. Ac mae o leiaf un yn ystyried peidio â dychwelyd i’r môr, gymaint oedd ei ofn.

A’r 2000 kilos o bysgod? Gwledd i’r gwylanod.

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: