Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 16, 2011

Maldod i’r Hadau

Maldod i’r hadau ac i’r planhigion bychain sydd wedi ymddangos yn barod. Optimistiaid fel yr ydym (neu fyddem ni ddim yn garddio o gwbl) roedd y tywydd mwyn wedi’n hala ni i hau pob math o bethau – llysiau, perlysiau, blodau – mewn blychau hadau yn y tŷ. Pan welwyd y pennau gleision yn ymestyn tua’r goleuni, roedden nhw ‘n cael mynd mâs ar y teras drwy’r dydd

ac wedyn i fewn i eistedd yn gyffyrddus ar lawr y gegin dros nos. Mae’r llawr yn cael ei wresogi oddi tano, felly roedden nhw’n glyd iawn yno.

Ond allwch chi ddim dibynnu ar y tywydd fan hyn yn Asturias, a’r wythnos yma mae hi wedi troi’n oerach ac yn wlyb.  Felly dyma gwneud bord o gefn hen gwpwrdd dillad a’i dodi yn y galería – math o ‘bay window’ sy’n gwynebu’r gogledd ond gyda goleuni’n cyrraedd o’r dwyrain a’r gorllewin hefyd.

Mae’r cwbl yn ddestlus iawn eleni, gyda phob res yn dwyn ei enw a thermometr i wneud yn siŵr na fydd y tymheredd yn disgyn gormod. Ond maen nhw i gyd yn gorfod mynd yn ôl ar y llawr bob nos i fod yn nes at y gwres. Diolch byth taw dim ond ni’n dau sydd yma ar hyn o bryd: ‘sneb wedi damsiel arnyn nhw eto!

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: