Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 17, 2011

Pigion y Diwrnod

Yn ôl El País, mae llywodraeth Catalunya wedi gorfod gohirio gwerthiant 300-500 miliwn euros yn y farchnad oherwydd diffyg diddordeb o ran y prynwyr – a hynny er bod y Generalitat yn cynnig llog ddwywaith gymaint â’r hyn y mae llywodraeth Madrid yn talu ar eu bondiau nhw. Rhaid cofio bod yr arian sy’n mynd o Catalunya i gynnal ardaloedd tlotach Sbaen wedi bod yn bwnc llosg ers blynyddoedd.

Mae awdurdodau meysydd awyr Sbaen ac undebau’r gweithwyr wedi cyrraedd cytundeb a ddylai golygu dileu’r diwrnodiau o streic oedd wedi eu cyhoeddi dros y Pasg ac yn ystod mis Mai. Craidd yr anghydfod yw’r cynlluniau i breifateiddio meysydd awyr. Mae un cwmni mawr Sbeinig wrth gwrs eisoes wedi cael profiad rhedeg meysydd awyr: Ferrovial, sy bia BAA ac felly Heathrow ymysg llefydd eraill.

Teithio ar yr heol: mae’r hirymaros yn parhau. Mae’r Adran Amgylchedd yn Madrid wedi rhoi stop ar y cynllun diweddaraf ar gyfer gorffen y draffordd ar hyd arfordir Asturias – a hynny er mwyn penderfynu a oes angen asesiad newydd o’r effaith ar yr amgylchedd. Os bydd yr arbenigwyr yn dweud bod rhaid cael un, fe allwn ni aros dwy flynedd heb weld unrhyw ddatblygiad.

Ond mae ‘na far Gwyddelig yn Llanes (sawl tref yn Ewrop sydd heb far Gwyddelig?), felly bant â ni i ddathlu Gŵyl Badrig . (Cymro oedd e, wedi’r cyfan.)

 

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: