Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 18, 2011

Oriel Lluniau’r Ogof

Ar ôl 10 mlynedd, mae Ribadesella wedi dathlu agoriad swyddogol yr oriel hir-addawedig ynghlwm wrth ogof Tito Bustillo – ogof sy’n cynnwys peth o gelfyddyd gorau Oes y Paleolithig. Ac mae’r tocynnau am ddim tan ddiwedd y mis!

Dyma’r adeilad: dwi wir ddim yn deall pam na roddon nhw llun y ceffyl enwog ar y tu fâs. Byddai pawb wedi deall beth oedd hwnnw. Ond y tu fewn sy’n bwysig. Rŷn ni wedi bod yn yr ogof sawl gwaith, ac roedd yr arddangosfa newydd yn ychwanegu’n fawr at y profiad hwnnw. Mae gan rywun fwy o amser i edrych ar lun neu i ddarllen esboniad, ac mae ‘na fapiau ar sawl ffurf sy’n helpu egluro sut y mae’r gwahanol grwpiau o luniau yn perthyn i’w gilydd. Roedd yn ddiddorol hefyd cael clywed – ar fideo – rhai o’r bobl a ddarganfu’r ogof ym 1968, a gweld toriadau o’r papurau newydd bryd hynny.

Mae’r prif luniau – ceffylau gan fwyaf ond hefyd ceirw a hyd yn oed morfil – yn ddigon plaen a phrydferth fel bod yr ymwelydd yn sefyll yn stond o’u blaenau. Ond roedd yn werth chweil gael cymorth graffeg i ddangos siâp ambell un arall ar baneli mawr.  Ac roedden nhw wedi gwneud ymdrech i ddangos sut fath o olau (neu ddiffyg golau) a geid o lamp mêr esgyrn, a sut yr oedd yr hen bobl wedi gwneud eu paent.

Roedd pobl yn byw yng ngheg yr ogof am ganrifoedd lawer, ond mae’r rhan fwyaf o’r lluniau yn perthyn i’r cyfnod Magdalenaidd, 20000-13000 o flynyddoedd yn ôl. Dyw mynd o gwmpas oriel byth yn mynd i roi’r wefr sy’n dod wrth sefyll o flaen llun yn yr ogof ei hun, a diolch byth am eleni o leiaf fe fydd yr ogof ar agor o fis Ebrill ymlaen. Mae wir yn werth ei weld.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: