Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 19, 2011

Y Lleuad Fawr

lleuad y perigê ffoto:cathasturias

Dyma fel yr oedd y lleuad neithiwr, ac rwy’n teimlo’n falch iawn fy mod i wedi tynnu’r llun achos heddiw mae cymylau’n llenwi’r awyr. Neithiwr dim ond cymylau tenau iawn oedd, a’r rheiny’n ymddangos fel cylch o amgylch y lleuad. Heno mae’r lleuad dipyn bach yn llawnach a thipyn bach yn nes at y ddaear ond gyda chamera bach fel sydd gyda fi fyddai neb yn gweld y gwahaniaeth.

Gan fod y lleuad lawn a’r perigê (gair a gefais yn y geiriadur yn golygu’r lleoliad agosaf at y ddaear) yn cyd-ddigwydd roedd diddordeb mawr gen i mewn gweld a fyddai’r môr yn dymhestlog adeg y llanw. A’r ateb yw: na.

Fel hyn yr oedd hi ddoe: diwrnod tebyg iawn i heddiw, ychydig iawn o awel, ond llai o gymylau. Y prynhawn yma ar benllanw (oedd i fod yn uwch na ddoe), roedd hi fel arall:

Yn uchel, ie, ond yn hollol dawel. Pwy a ŵyr sut fydd hi yfory (ond byddaf yn siŵr o fynd i lawr i’r traeth i gael gwybod.)

 


Ymateb

  1. Is that the same moon they have in Texas?

    • No I think theirs is bigger!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: