Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 21, 2011

Dechrau’r Glanhau Mawr

Dechrau swyddogol y gwanwyn, yr haul yn disgleirio a’r gwynt yn chwythu’n gryf o’r gogledd-ddwyrain. Diwrnod anodd i weithio yn yr ardd am fod y gwynt mor oer, ond cyfle bendigedig  i olchi dillad gwely, siglo matiau a rhoi waded go dda iddyn nhw.  Symud y celfi sydd heb eu symud ers y llynedd a chlirio miloedd o hen weoedd llychlyd. Sdim ots ‘da fi cael corryn neu ddwy ond fe fyddwn i’n hynod o falch petaen nhw’n dysgu glanhau cyn symud ymlaen i we newydd.

Pan oeddwn yn byw yn y ddinas, fyddwn i byth yn meddwl am lanhau fel hyn: ryw fath o gadw pethau’n fwy neu lai o dan reolaeth oedd hi. Ond yn y wlad, lle mae pob math o bryfed yn rhannu’r tŷ,  a mwd yn dod i fewn ar ein sgidiau ta pwy mor ofalus yr ydym, sdim dewis. Hefyd, sdim carpedi gyda ni, ond teils neu llawr pren: mae’n gwneud i rywun feddwl faint o lwch etc sydd mewn carped ond nad yw’n weladwy.

Mae unwaith y flwyddyn yn ddigon – onibai am y ffenestri sy’n cael eu gorchuddio â llwch y ddaear a halen y môr bob ryw ddeufis. Ond o leiaf byddwn yn gallu rhoi’r gorau i gynnau tân yn fuan iawn, glanhau’r stafell fyw a byw ar y teras unwaith eto.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: