Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 22, 2011

Anifeiliaid Mawr y Mynydd

Ers blynyddoedd bellach mae nifer yr eirth yn y Picos de Europa yn  nwyrain Asturias wedi bod yn disgyn yn gyson. Yn ôl y grŵp sy’n ceisio adfer y boblogaeth dim ond dwy arthes sydd ar ôl yn awr. Bob hyd a hyn mae arth yn llwyddo i gyrraedd y Picos o orllewin Asturias, lle mae’r nifer ar ei chynnydd, ond mae’n rhaid i’r dewrion hynny groesi o leiaf dwy heol fawr (lled traffordd) a rheilffordd. Mae’r Fundación Oso Pardo wedi bod yn gweithio ers amser i gael twneli a chroesfannau i’r eirth, ond yn awr maen nhw wedi penderfynu taw symud yr anifeiliad yn uniongyrchol i’r Picos a mynyddoedd eraill y dwyrain yw’r ateb – a hynny mor gynted ag y gallan nhw ei drefnu.

Rwyf i wir yn gobeithio y bydd y cynllun yma’n llwyddiant: byddwn i wrth fy modd yn gweld arth yn ei gynefin. Rhaid gobeithio na fydd yr helwyr na’r gwenwynwyr yn rhoi diwedd sydyn ar y newydd-ddyfodiaid.

Dyw’r blaidd ddim cweit mor boblogaidd. Mae Cyngor Blaidd Asturias yn cwrdd yfory i glywed sawl anifail fydd yn cael eu lladd eleni. Mae llywodraeth y dalaith am ladd 47, oherwydd yr ymosodiadau a fu ar dda byw y llynedd – wastod yn yr ucheldiroedd, o un pen o dde Asturias i’r llall. Bu’n rhaid i’r llywodraeth dalu dros filiwn o euros o iawndal yn 2010.

Ac eto gallwch chi gerdded drwy’r dydd yn y Picos heb weld na siw na miw o’r bleiddiaid sydd yno: rhywbeth sydd ddim yn wir am y baedd. Mae’r rheiny’n aredig y tir yn drwyadl yn chwilio am fwyd, ac os byddwch chi’n lwcus mae’n bosib gweld teulu bach yn cwato yn y llwyni ganol dydd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: