Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 23, 2011

Y Werin Raddedig

Petai Dad yn gwybod (wel, petai e o hyd yn byw, yn y lle cyntaf) fy mod i ar ôl yr holl addysg ‘na wedi treulio diwrnod yn glanhau creigiau – fe fyddai’n rhoi ei ben yn ei ddwylo ac yn chwerthin. Roedd ei dad e wedi dianc o gorsydd anllythrennog cefn gwlad Iwerddon yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif,  a hynny er mwyn bywyd gwell, haws, heb fod yn gaeth i’r tir.

Ond rwyf i’n sefyll fan hyn ar y balconi yn edrych ar y creigiau hynny’n lân ac yn olau yn yr heulwen hwyr. Mae’r creigiau’n rhan hanfodol o’r ardd (mae e fel garddio yn un o strydoedd uchaf Porth y Rhondda), a bwriad y glanhau heddiw oedd clirio y tu ôl i’r ffigysbren fawr wrth y teras. Rwy’n sicr y bydd hi lot yn hapusach yn awr bod hi ddim yn gorfod cystadlu gyda’r holl iorwg a mieri a dant y llew oedd yn cuddio’r graig lwyd.

Bydd hi’n cael mwy o ddŵr glaw, a mwy o wres yn cael ei adlewyrchu o’r graig. Dwi ddim yn siŵr taw ‘adlewyrchu’ yw’r gair cywir, ond beth sy’n digwydd yw bod y gwres sydd wedi cael ei lyncu gan y graig yn ystod y dydd yn cael ei ryddhau ar ôl y machlud haul.

Gobeithio nawr ei bod yn gwerthfawrogi’r holl waith caled  ac yn dwyn cynhaeaf da o ffigys.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: