Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 24, 2011

Taith y Madarch

Roeddem ni wedi bod yn meddwl mynd i chwilio am fadarch ers achau, felly pan gawsom ni gynnig gan rywun sy’n gwybod ei bethau roeddem ni yno ar frys.

Ar ddiwrnod sych o wanwyn, yr unig beth oedd yn sicr oedd y byddem ni’n ymweld â nifer o hoff lefydd Giuseppe ac yn dysgu sut fath o le mae’r gwahanol fadarch yn dewis.

Llwyn fach o dderw, castanwydd a chelyn sydd fan hyn, gyda nifer o goed marw a mwsogl a dail crin dros y lle i gyd. Perffaith, meddai fe, am y chanterelles bach euraidd. (Oes na lyfr o enwau Cymraeg i fadarch? Help!) Efallai ein bod ni’n rhy gynnar, ond doedd na ddim byd yn tyfu rhwng y coes.

Bant â ni i goedwig fach arall, yn cymryd ein hamser ac yn symud y dail yn ofalus gyda’r ffyn. Dim byd. Amser i ginio. Ac wedyn i ffwrdd i safle arall i weld coedwig castanwydd lle byddai’r ‘trwmped du’ neu ‘drwmped marwolaeth’ yn sicr o gael ei weld yn yr hydref.

Y tro yma wnaethon ni adael y basgedi yn y car, ond wedi cerdded am ryw chwarter awr, dyma floedd: moreles! A dyna lle roedden nhw, ugeiniau o forels y gwanwyn mewn un haid nepell o lan yr afon. Wnes i dynnu’n siaced i wneud bag i’w cario nhw.

moreles ffoto:cathasturias

Yn awr i chwilio am y ffordd orau i’w glanhau, a’u defnyddio. Mwy am hynny yfory.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: