Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 25, 2011

O’r Gegin: Morels

Neithiwr daethom ni adref gyda bron i hanner kilo o morels, y madarch sy’n ymddangos yn y gwanwyn. Mae’r rhain yn costio cymaint mewn siop nag oeddwn i erioed wedi blasu rhai ffres, dim ond wedi’u sychu. Ond wedyn fe ddywedodd ein cyfaill Eidalaidd sy’n gwybod am fadarch eu bod yn well wedi’u sychu, bod y blas yn dyfnhau a’r perarogl yn aros.

Yn gyntaf, rhaid eu glanhau nhw. Mae’r tywydd wedi bod yn sych ers rhai dyddiau, felly roedden nhw’n eithaf glân i ddechrau, ond roedd eisiau’u torri nhw yn eu hanner rhag ofn fod pryfed wedi ymgartrefu. (Fe oedd rhai, bychan iawn.)

glanhau madarch ffoto:cathasturias

Wedyn, cymryd brws paent (newydd, glân) a brwsio’n ofalus iawn i gael gwared olion dail ac ati. Ac yna, i fewn â nhw i’r sychwr. Ar ôl 6 awr roedden nhw’n edrych yn ddigon tebyg i’r rhai diwethaf a brynais i. Mae’r rhai mwyaf,  sydd rhy fawr i’w trin yn y sychwr, yn eistedd mewn rhidyll ar silff uchel yn y gegin i gael gweld a fydd hynny’n ddigon iddyn nhw.

A dyma dric i chi sy’n hoffi gwneud risotto: cadw’r reis mewn jar, ac ychwanegu madarchen wedi’i sychu (sdim rhaid iddi fod yn morel). Dros yr wythnosau fe fydd y reis yn cymryd peth o flas y madarch ac yn gwella sawr y risotto yn y pen draw.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: