Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 26, 2011

Colli Cymdoges

Ddoe bu farw mamgu y teulu gyferbyn, a heddiw fe’i claddwyd ym mynwent y pentref. Roedd hi’n 96 mlwydd oed, a than yn ddiweddar iawn yn cerdded o gwmpas y lonydd bach bob dydd. Yn ystod y pythefnos diwthaf, pan oedd yn amlwg na fyddai’n gwella, gwrthododd yn blwmp ac yn blaen mynd i’r ysbyty, a bu farw yn y tŷ gyda’i merch ac aelodau eraill o’r teulu yn gofalu amdani.

Brynhawn ddoe, dechreuodd pobl gyrraedd y tŷ. Y teulu agos yn aros, eraill yn dod i dalu teyrnged ac i gydymdeimlo. Yn y cwrt y tu fâs roedd bord fach gyda llyfr i’w arwyddo. Yn y parlwr, yr arch, o dan orchudd o dorchau, ac o’i amgylch, cadeiriau lawer. Pawb yn rhannu straeon am yr ymadawedig ac yn gwrando ar haner ei diwrnodiau olaf.

Heddiw, roedd cynifer o geir yn y stryd fawr ag ar ddydd gŵyl. Cariwyd yr arch i fewn i’r eglwys gan y 4 ŵyr, dynion ifainc. Doedd dim hanner digon o le i’r galarwyr i gyd. Ar ôl gwasanaeth o hanner awr, canodd y gloch undonog a cherddasom i gyd y tu ôl i’r arch lan i’r fynwent, ryw 10 munud i ffwrdd o’r eglwys. Safodd dau ddyn oedd yn lladd gwair yn stond wrth inni basio. Mae ambell i fedd yn y tir yno, ond mae’r rhan fwyaf o’r meirw yn cael eu dodi mewn siambrau yn y welydd. (Ces i hanes wedyn am angladd lle roedd y teulu wedi mynnu cael yr arch mwyaf, a drutaf, oedd yn rhy fawr i fynd i fewn. Bu’n rhaid torri pob addurn oddi arno.)

Roedd cynifer o dorchau, bu’r wyrion wedyn yn mynd o gwmpas y dorf yn eu cynnig nhw i deuluoedd eraill i’w rhoi ar eu beddau nhw.

Ac yna pawb i lawr i’r bar i gael glasied o win cyn mynd adref i ginio tua 3 o’r gloch. Ond am y teulu, wrth gwrs, aeth adref i ddechrau pennod newydd o’u bywyd.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: