Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 27, 2011

Madfall v Modur

Mae’n anodd weithiau ceisio diogelu hynny o’r amgylchedd naturiol sydd ar ôl. Rwyf i wedi són o’r blaen am y draffordd – yr A8 – sy’n hebrwng teithwyr yn gyflym ar hyd arfordir gogledd Sbaen yr holl ffordd o ffin Ffrainc i ffin Asturias. Yn ôl y papur lleol, mae’n bosib gyrru o Helsinki i dref fwyaf gorllewinol Cantábria, Unquera, ar draffordd.  Wedyn mae ‘na 25 km o hen heol boenus, sydd erbyn hyn wedi ei chulhau fwyfwy oherwydd y gwaith ar y draffordd – sydd yn awr ar stop.

Ac felly y bydd hi am gyfnod maith, mae’n debyg. Mae gweinyddiaeth yr amgylchedd yn Madrid yn dweud bod yn rhaid cael astudiaeth newydd sbon o’r llwybr y bydd y draffordd yn ei ddilyn. A hynny am ei fod wedi symud ychydig i’r de, ac i fewn i ardal arbennig, y Sierra Plana de la Borbolla,  sydd wedi ei diogelu ers blynyddoedd ac sy’n gartref i wahanol fathau o hedyn, chwilod corniog prin, a madfallod.

A dadlau mae pobl o hyd am ddyfodol y Quérabu, llyn byr-dymor y mae’r cyngor lleol am ei ddiogelu rhag yr helwyr oherwydd yr adar sy’n aros yno ar eu teithiau hir. Mae’r helwyr wedi cynnig peidio â saethu dros y dŵr. Smof i’n credu bod hynny’n mynd i fod yn ddigonol, rywsut.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: